22 Canys meibion Israel a rodiasant yn holl bechodau Jeroboam, y rhai a wnaeth efe, heb gilio oddi wrthynt:
23 Nes i'r Arglwydd fwrw Israel allan o'i olwg, fel y llefarasai trwy law ei holl weision y proffwydi: ac Israel a gaethgludwyd allan o'i wlad ei hun i Asyria, hyd y dydd hwn.
24 A brenin Asyria a ddug bobl o Babilon, ac o Cutha, ac o Afa, o Hamath hefyd, ac o Seffarfaim, ac a'u cyfleodd hwynt yn ninasoedd Samaria, yn lle meibion Israel. A hwy a feddianasant Samaria, ac a drigasant yn ei dinasoedd hi.
25 Ac yn nechrau eu trigias hwy yno, nid ofnasant hwy yr Arglwydd; am hynny yr Arglwydd a anfonodd lewod yn eu plith hwynt, y rhai a laddasant rai ohonynt.
26 Am hynny y mynegasant i frenin Asyria, gan ddywedyd, Y cenhedloedd y rhai a fudaist ti, ac a gyfleaist yn ninasoedd Samaria, nid adwaenant ddefod Duw y wlad: am hynny efe a anfonodd lewod yn eu mysg hwynt, ac wele, lladdasant hwynt, am na wyddent ddefod Duw y wlad.
27 Yna brenin Asyria a orchmynnodd, gan ddywedyd, Dygwch yno un o'r offeiriaid a ddygasoch oddi yno, i fyned ac i drigo yno, ac i ddysgu iddynt ddefod Duw y wlad.
28 Felly un o'r offeiriaid a ddygasent hwy o Samaria a ddaeth ac a drigodd yn Bethel, ac a ddysgodd iddynt pa fodd yr ofnent yr Arglwydd.