30 A gwŷr Babilon a wnaethant Succoth‐Benoth, a gwŷr Cuth a wnaethant Nergal, a gwŷr Hamath a wnaethant Asima,
31 A'r Afiaid a wnaethant Nibhas a Thartac, a'r Seffarfiaid a losgasant eu meibion yn tân i Adrammelech ac i Anammelech, duwiau Seffarfaim.
32 Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd, ac a wnaethant iddynt rai o'u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd.
33 Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno.
34 Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na'r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.
35 A'r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:
36 Ond yr Arglwydd yr hwn a'ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr, ac â braich estynedig, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymwch, ac iddo ef yr aberthwch.