38 Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr:
39 Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw; ac efe a'ch gwared chwi o law eich holl elynion.
40 Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy.
41 Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni'r Arglwydd, ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig; eu plant a'u hwyrion: fel y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.