5 Yna brenin Asyria a aeth i fyny trwy'r holl wlad, ac a aeth i fyny i Samaria, ac a warchaeodd arni hi dair blynedd.
6 Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a'u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid.
7 Felly y bu, am i feibion Israel bechu yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a'u dygasai hwynt i fyny o wlad yr Aifft, oddi tan law Pharo brenin yr Aifft, ac am iddynt ofni duwiau dieithr,
8 A rhodio yn neddfau y cenhedloedd, y rhai a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel, ac yn y deddfau a wnaethai brenhinoedd Israel.
9 A meibion Israel a wnaethant yn ddirgel bethau nid oedd uniawn yn erbyn yr Arglwydd eu Duw, ac a adeiladasant iddynt uchelfeydd yn eu holl ddinasoedd, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.
10 Gosodasant hefyd iddynt ddelwau a llwyni ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas:
11 Ac a arogldarthasant yno yn yr holl uchelfeydd, fel y cenhedloedd y rhai a gaethgludasai yr Arglwydd o'u blaen hwynt; a gwnaethant bethau drygionus i ddigio'r Arglwydd.