13 Mae brenin Hamath, a brenin Arpad, a brenin dinas Seffarfaim, Hena, ac Ifa?
14 A Heseceia a gymerodd y llythyrau o law y cenhadau, ac a'u darllenodd hwy: a Heseceia a aeth i fyny i dŷ yr Arglwydd, ac a'u lledodd hwynt gerbron yr Arglwydd.
15 A Heseceia a weddïodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd Dduw Israel, yr hwn wyt yn trigo rhwng y ceriwbiaid, tydi sydd Dduw, tydi yn unig, i holl deyrnasoedd y ddaear; ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear.
16 Gogwydda, Arglwydd, dy glust, a gwrando: agor dy lygaid, Arglwydd, ac edrych; a gwrando eiriau Senacherib, yr hwn a anfonodd i ddifenwi y Duw byw.
17 Gwir yw, O Arglwydd, i frenhinoedd Asyria ddifa'r holl genhedloedd a'u tir,
18 A rhoddi eu duwiau hwynt yn tân: canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dyn, o goed a maen: am hynny y dinistriasant hwynt.
19 Yn awr gan hynny, O Arglwydd ein Duw ni, achub ni, atolwg, o'i law ef, fel y gwypo holl deyrnasoedd y ddaear mai tydi yw yr Arglwydd Dduw, tydi yn unig.