27 Dy eisteddiad hefyd, a'th fynediad allan, a'th ddyfodiad i mewn, a adnabûm i, a'th gynddeiriogrwydd i'm herbyn.
28 Am i ti ymgynddeiriogi i'm herbyn, ac i'th ddadwrdd ddyfod i fyny i'm clustiau i; am hynny y gosodaf fy mach yn dy ffroen, a'm ffrwyn yn dy weflau, ac a'th ddychwelaf di ar hyd yr un ffordd ag y daethost.
29 A hyn fydd yn argoel i ti, O Heseceia: Y flwyddyn hon y bwytei a dyfo ohono ei hun, ac yn yr ail flwyddyn yr atwf; ac yn y drydedd flwyddyn heuwch, a medwch, plennwch winllannoedd hefyd, a bwytewch eu ffrwyth hwynt.
30 A'r gweddill o dŷ Jwda yr hwn a adewir, a wreiddia eilwaith i waered, ac a ddwg ffrwyth i fyny.
31 Canys gweddill a â allan o Jerwsalem, a'r rhai dihangol o fynydd Seion: sêl Arglwydd y lluoedd a wna hyn.
32 Am hynny fel hyn y dywedodd yr Arglwydd am frenin Asyria, Ni ddaw efe i'r ddinas hon, ac nid ergydia saeth yno; hefyd ni ddaw efe o'i blaen hi â tharian, ac ni fwrw glawdd i'w herbyn hi.
33 Ar hyd yr un ffordd ag y daeth, y dychwel efe, ac ni ddaw i mewn i'r ddinas hon, medd yr Arglwydd.