11 Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele gerbyd tanllyd, a meirch tanllyd, a hwy a'u gwahanasant hwynt ill dau. Ac Eleias a ddyrchafodd mewn corwynt i'r nefoedd.
12 Ac Eliseus oedd yn gweled, ac efe a lefodd, Fy nhad, fy nhad, cerbyd Israel, a'i farchogion. Ac nis gwelodd ef mwyach: ac efe a ymaflodd yn ei ddillad, ac a'u rhwygodd yn ddeuddarn.
13 Ac efe a gododd i fyny fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef; ac a ddychwelodd ac a safodd wrth fin yr Iorddonen.
14 Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd, Pa le y mae Arglwydd Dduw Eleias? Ac wedi iddo yntau daro'r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.
15 A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i'w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.
16 A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda'th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr Arglwydd ei ddwyn ef, a'i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch.
17 Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a'i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.