14 Yna Eseia y proffwyd a ddaeth at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat ti? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant hwy, sef o Babilon.
15 Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant hwy: nid oes dim yn fy nhrysorau i nas dangosais iddynt hwy.
16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr Arglwydd.
17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.
18 Cymerant hefyd o'th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.
19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?
20 A'r rhan arall o hanes Heseceia, a'i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a'r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i'r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?