16 Ac Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air yr Arglwydd.
17 Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a'r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd.
18 Cymerant hefyd o'th feibion di, y rhai a ddaw allan ohonot, y rhai a genhedli di, a hwy a fyddant yn ystafellyddion yn llys brenin Babilon.
19 Yna Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Onid da os bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i?
20 A'r rhan arall o hanes Heseceia, a'i holl rym ef, ac fel y gwnaeth efe y llyn, a'r pistyll, ac y dug efe y dyfroedd i'r ddinas, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
21 A Heseceia a hunodd gyda'i dadau: a Manasse ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.