6 A mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd, ac a'th waredaf di a'r ddinas hon o law brenin Asyria: diffynnaf hefyd y ddinas hon er fy mwyn fy hun, ac er mwyn Dafydd fy ngwas.
7 A dywedodd Eseia, Cymerwch swp o ffigys. A hwy a gymerasant, ac a'i gosodasant ar y cornwyd, ac efe a aeth yn iach.
8 A Heseceia a ddywedodd wrth Eseia, Pa arwydd fydd yr iachâ yr Arglwydd fi, ac yr af fi i fyny i dŷ yr Arglwydd y trydydd dydd?
9 Ac Eseia a ddywedodd, Hyn fydd i ti yn argoel oddi wrth yr Arglwydd, y gwna yr Arglwydd y gair a lefarodd efe: A â y cysgod ddeg o raddau ymlaen, neu a ddychwel efe ddeg o raddau yn ôl?
10 A Heseceia a ddywedodd, Hawdd yw i'r cysgod ogwyddo ddeg o raddau: nid felly, ond dychweled y cysgod yn ei ôl ddeg o raddau.
11 Ac Eseia y proffwyd a lefodd ar yr Arglwydd: ac efe a drodd y cysgod ar hyd y graddau, ar hyd y rhai y disgynasai efe yn neial Ahas, ddeg o raddau yn ei ôl.
12 Yn yr amser hwnnw yr anfonodd Berodach‐Baladan, mab Baladan brenin Babilon, lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai fod Heseceia yn glaf.