15 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i'r gŵr a'ch anfonodd chwi ataf fi;
16 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddarllenodd brenin Jwda:
17 Am iddynt fy ngwrthod i, ac arogldarthu i dduwiau dieithr, i'm digio i â holl waith eu dwylo: am hynny yr ennyn fy llid yn erbyn y lle hwn, ac nis diffoddir ef.
18 Ond wrth frenin Jwda, yr hwn a'ch anfonodd chwi i ymgynghori â'r Arglwydd, fel hyn y dywedwch wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Am y geiriau a glywaist ti;
19 Oblegid i'th galon feddalhau, ac i tithau ymostwng o flaen yr Arglwydd, pan glywaist yr hyn a leferais yn erbyn y lle hwn, ac yn erbyn ei drigolion, y byddent yn anghyfannedd ac yn felltith, ac am rwygo ohonot dy ddillad, ac wylo ger fy mron i; minnau hefyd a wrandewais, medd yr Arglwydd.
20 Oherwydd hynny, wele, mi a'th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i'th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i'r brenin drachefn.