5 A rhoddant hwy yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd; a rhoddant hwy i'r rhai sydd yn gwneuthur y gwaith sydd yn nhŷ yr Arglwydd, i gyweirio agennau y tŷ,
6 I'r seiri coed, ac i'r adeiladwyr, ac i'r seiri maen, ac i brynu coed a cherrig nadd, i atgyweirio'r tŷ.
7 Eto ni chyfrifwyd â hwynt am yr arian a roddwyd yn eu llaw hwynt, am eu bod hwy yn gwneuthur yn ffyddlon.
8 A Hilceia yr archoffeiriad a ddywedodd wrth Saffan yr ysgrifennydd, Cefais lyfr y gyfraith yn nhŷ yr Arglwydd: a Hilceia a roddodd y llyfr at Saffan, ac efe a'i darllenodd ef.
9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i'r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a'i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd.
10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i'r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a'i darllenodd ef gerbron y brenin.
11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.