9 A Saffan yr ysgrifennydd a ddaeth at y brenin, ac a adroddodd y peth i'r brenin, ac a ddywedodd, Dy weision di a gasglasant yr arian a gafwyd yn tŷ, ac a'i rhoddasant yn llaw gweithwyr y gwaith, y rhai sydd olygwyr ar dŷ yr Arglwydd.
10 A Saffan yr ysgrifennydd a fynegodd i'r brenin, gan ddywedyd, Hilceia yr offeiriad a roddodd i mi lyfr: a Saffan a'i darllenodd ef gerbron y brenin.
11 A phan glybu y brenin eiriau llyfr y gyfraith, efe a rwygodd ei ddillad.
12 A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr offeiriad, ac i Ahicam mab Saffan, ac i Achbor mab Michaia, ac i Saffan yr ysgrifennydd, ac i Asaheia gwas y brenin, gan ddywedyd,
13 Ewch, ymofynnwch â'r Arglwydd drosof fi, a thros y bobl, a thros holl Jwda, am eiriau y llyfr hwn a gafwyd: canys mawr yw llid yr Arglwydd yr hwn a enynnodd i'n herbyn ni, oherwydd na wrandawodd ein tadau ni ar eiriau y llyfr hwn, i wneuthur yn ôl yr hyn oll a ysgrifennwyd o'n plegid ni.
14 Felly Hilceia yr offeiriad, ac Ahicam, ac Achbor, a Saffan, ac Asaheia, a aethant at Hulda y broffwydes, gwraig Salum mab Ticfa, mab Harhas, ceidwad y gwisgoedd: a hi oedd yn trigo yn Jerwsalem yn yr ysgoldy; a hwy a ymddiddanasant â hi.
15 A hi a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel, Dywedwch i'r gŵr a'ch anfonodd chwi ataf fi;