23 Ac yn y ddeunawfed flwyddyn i frenin Joseia y cynhaliwyd y Pasg hwn i'r Arglwydd yn Jerwsalem.
24 Y swynyddion hefyd, a'r dewiniaid, a'r delwau, a'r eilunod, a'r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr Arglwydd.
25 Ac ni bu o'i flaen frenin o'i fath ef, yr hwn a drodd at yr Arglwydd â'i holl galon, ac â'i holl enaid, ac â'i holl egni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses; ac ar ei ôl ef ni chyfododd ei fath ef.
26 Er hynny ni throdd yr Arglwydd oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef.
27 A dywedodd yr Arglwydd, Jwda hefyd a fwriaf ymaith o'm golwg, fel y bwriais ymaith Israel, ac a wrthodaf y ddinas hon Jerwsalem, yr hon a ddetholais, a'r tŷ am yr hwn y dywedais, Fy enw a fydd yno.
28 A'r rhan arall o hanes Joseia, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
29 Yn ei ddyddiau ef y daeth Pharo‐Necho brenin yr Aifft i fyny yn erbyn brenin Asyria, hyd afon Ewffrates: a'r brenin Joseia a aeth i'w gyfarfod ef, a Pharo a'i lladdodd ef ym Megido, pan ei gwelodd ef.