1 Yn ei ddyddiau ef y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny, a Joacim a fu was iddo ef dair blynedd: yna efe a drodd, ac a wrthryfelodd yn ei erbyn ef.
2 A'r Arglwydd a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o'r Caldeaid, a thorfoedd o'r Syriaid, a thorfoedd o'r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a'u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i'w dinistrio hi, yn ôl gair yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.
3 Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda, i'w bwrw allan o'i olwg ef, o achos pechodau Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe;
4 A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau.