17 A brenin Babilon a osododd Mataneia brawd ei dad ef yn frenin yn ei le ef, ac a drodd ei enw ef yn Sedeceia.
18 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
19 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Joachin.
20 Canys trwy ddigofaint yr Arglwydd y bu hyn yn Jerwsalem ac yn Jwda, nes iddo eu taflu hwynt allan o'i olwg, fod i Sedeceia wrthryfela yn erbyn brenin Babilon.