3 Yn ddiau trwy orchymyn yr Arglwydd y bu hyn yn erbyn Jwda, i'w bwrw allan o'i olwg ef, o achos pechodau Manasse, yn ôl yr hyn oll a wnaethai efe;
4 A hefyd oherwydd y gwaed gwirion a ollyngodd efe: canys efe a lanwodd Jerwsalem o waed gwirion; a hynny ni fynnai yr Arglwydd ei faddau.
5 A'r rhan arall o hanes Joacim, a'r hyn oll a'r a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
6 A Joacim a hunodd gyda'i dadau; a Joachin ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
7 Ac ni ddaeth brenin yr Aifft mwyach o'i wlad: canys brenin Babilon a ddygasai yr hyn oll a oedd eiddo brenin yr Aifft, o afon yr Aifft hyd afon Ewffrates.
8 Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem.
9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.