8 Mab deunaw mlwydd oedd Joachin pan aeth efe yn frenin; a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Nehusta, merch Elnathan o Jerwsalem.
9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dad.
10 Yn yr amser hwnnw y daeth gweision Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny yn erbyn Jerwsalem, a gwarchaewyd ar y ddinas.
11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a ddaeth yn erbyn y ddinas, a'i weision ef a warchaeasant arni hi.
12 A Joachin brenin Jwda a aeth allan at frenin Babilon, efe, a'i fam, a'i weision, a'i dywysogion, a'i ystafellyddion: a brenin Babilon a'i daliodd ef yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiad.
13 Ac efe a ddug oddi yno holl drysorau tŷ yr Arglwydd, a thrysorau tŷ y brenin, ac a dorrodd yr holl lestri aur a wnaethai Solomon brenin Israel yn nheml yr Arglwydd, fel y llefarasai yr Arglwydd.
14 Ac efe a ddug ymaith holl Jerwsalem, yr holl dywysogion hefyd, a'r holl gedyrn nerthol, sef deng mil o gaethion, a phob saer, a gof: ni adawyd ond pobl dlodion y wlad yno.