10 A holl lu'r Caldeaid, y rhai oedd gyda'r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch.
11 A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa.
12 Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.
13 Y colofnau pres hefyd, y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a'r ystolion, a'r môr pres, yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a ddrylliodd y Caldeaid, a hwy a ddygasant eu pres hwynt i Babilon.
14 Y crochanau hefyd, a'r rhawiau, a'r saltringau, y llwyau, a'r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt, a ddygasant hwy ymaith.
15 Y pedyll tân hefyd, a'r cawgiau, y rhai oedd o aur yn aur, a'r rhai oedd o arian yn arian, a ddug y distain ymaith.
16 Y ddwy golofn, yr un môr, a'r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.