16 Y ddwy golofn, yr un môr, a'r ystolion a wnaethai Solomon i dŷ yr Arglwydd; nid oedd bwys ar bres yr holl lestri hyn.
17 Tri chufydd ar bymtheg oedd uchder y naill golofn, a chnap pres oedd arni; ac uchder y cnap oedd dri chufydd; plethwaith hefyd a phomgranadau oedd ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac felly yr oedd yr ail golofn, â phlethwaith.
18 A'r distain a gymerth Seraia yr offeiriad pennaf, a Seffaneia, yr ail offeiriad, a'r tri oedd yn cadw y drws.
19 Ac o'r ddinas efe a gymerth ystafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a phumwr o'r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.
20 A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a'u dug at frenin Babilon, i Ribla.
21 A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.
22 Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.