20 A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a'u dug at frenin Babilon, i Ribla.
21 A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.
22 Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.
23 A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt‐hwy a'u gwŷr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maachathiad, hwynt a'u gwŷr.
24 A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i'r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.
25 Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o'r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fel y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a'r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa.
26 A'r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i'r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni'r Caldeaid.