3 Ac ar y nawfed dydd o'r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad.
4 A'r ddinas a dorrwyd, a'r holl ryfelwyr a ffoesant liw nos ar hyd ffordd y porth, rhwng y ddau fur, y rhai sydd wrth ardd y brenin, (a'r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch;) a'r brenin a aeth y ffordd tua'r rhos.
5 A llu'r Caldeaid a erlidiasant ar ôl y brenin, ac a'i daliasant ef yn rhosydd Jericho: a'i holl lu ef a wasgarasid oddi wrtho.
6 Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef.
7 Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a'i dygasant ef i Babilon.
8 Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o'r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.
9 Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân.