6 Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a'i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribla; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef.
7 Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a'i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a'i dygasant ef i Babilon.
8 Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o'r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.
9 Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr a losgodd efe â thân.
10 A holl lu'r Caldeaid, y rhai oedd gyda'r distain, a dorasant i lawr furiau Jerwsalem oddi amgylch.
11 A Nebusaradan y distain a ddug ymaith y rhan arall o'r bobl a adawsid yn y ddinas, a'r ffoaduriaid a giliasant at frenin Babilon, gyda gweddill y dyrfa.
12 Ac o dlodion y wlad y gadawodd y distain rai, yn winllanwyr, ac yn arddwyr.