1 A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd.
2 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.
3 Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.
4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.
5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.