10 A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i'r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i'w rhoddi yn llaw Moab.
11 A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i'r Arglwydd, fel yr ymofynnom ni â'r Arglwydd trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.
12 A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr Arglwydd gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef.
13 Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr Arglwydd a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i'w rhoddi yn llaw Moab.
14 Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni'th welswn.
15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr Arglwydd arno ef.
16 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.