15 Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr Arglwydd arno ef.
16 Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.
17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a'ch anifeiliaid, a'ch ysgrubliaid.
18 A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr Arglwydd: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.
19 A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig.
20 A'r bore pan offrymwyd y bwyd‐offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a'r wlad a lanwyd o ddyfroedd.
21 A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a'r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn.