2 Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.
3 Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.
4 A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.
5 Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.
6 A'r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.
7 Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i'm herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.
8 Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.