1 A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd: a'r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.
2 Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew.
3 Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig.
4 A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i'r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.