15 Ac efe a ddychwelodd at ŵr Duw, efe a'i holl fintai, ac a ddaeth ac a safodd ger ei fron ef; ac a ddywedodd, Wele, yn awr y gwn nad oes Duw trwy yr holl ddaear, ond yn Israel: am hynny cymer yn awr, atolwg, rodd gan dy was.
16 Ond efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, ni chymeraf. Ac efe a gymhellodd arno ei chymryd; eto efe a'i gwrthododd.
17 A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i'th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i'r Arglwydd.
18 Yn y peth hyn yr Arglwydd a faddeuo i'th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr Arglwydd i'th was yn y peth hyn.
19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.
20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o'i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr Arglwydd, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef.
21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i'w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda?