15 A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A'i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
16 Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na'r rhai sydd gyda hwynt.
17 Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.
18 A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a'u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.
19 Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a'ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a'u harweiniodd hwynt i Samaria.
20 A phan ddaethant hwy i Samaria, Eliseus a ddywedodd, O Arglwydd, agor lygaid y rhai hyn, fel y gwelont. A'r Arglwydd a agorodd eu llygaid hwynt; a hwy a welsant: ac wele, yng nghanol Samaria yr oeddynt.
21 A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad?