14 Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a'r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.
15 A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a'r cenhadau a ddychwelasant ac a fynegasant i'r brenin.
16 A'r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr Arglwydd.
17 A'r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a'r bobl a'i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.
18 A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria.
19 A'r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a'i gweli â'th lygaid, ond ni fwytei ohono.
20 Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a'i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.