22 Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.
23 A'r rhan arall o hanes Joram, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
24 A Joram a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25 Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin.
26 Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel.
27 Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab ydoedd efe.
28 Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead; a'r Syriaid a drawsant Joram.