6 A'r brenin a ofynnodd i'r wraig; a hithau a fynegodd iddo ef. A'r brenin a roddodd iddi ryw ystafellydd, gan ddywedyd, Dod drachefn yr hyn oll oedd eiddi hi, a holl gnwd y maes, o'r dydd y gadawodd hi y wlad hyd y pryd hwn.
7 A daeth Eliseus i Damascus: a Benhadad brenin Syria oedd glaf; a mynegwyd iddo ef, gan ddywedyd, Daeth gŵr Duw yma.
8 A'r brenin a ddywedodd wrth Hasael, Cymer anrheg yn dy law, a dos i gyfarfod â gŵr Duw; ac ymofyn â'r Arglwydd trwyddo ef, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?
9 Felly Hasael a aeth i'w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a'r a oedd dda o Damascus, sef llwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o'i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a'm hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o'r clefyd hwn?
10 Ac Eliseus a ddywedodd wrtho, Dos, a dywed wrtho, Diau y gelli fyw: eto yr Arglwydd a ddangosodd i mi y bydd efe marw yn ddiau.
11 Ac efe a osododd ei wyneb, ac a ddaliodd sylw arno, nes cywilyddio ohono ef: a gŵr Duw a wylodd.
12 A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a'u gwŷr ieuainc a leddi â'r cleddyf, a'u plant a bwyi, a'u gwragedd beichiogion a rwygi.