24 Ac Absalom a ddaeth at y brenin, ac a ddywedodd, Wele yn awr rai yn cneifio i'th was di; deued, atolwg, y brenin a'i weision gyda'th was.
25 A dywedodd y brenin wrth Absalom, Nage, fy mab, ni ddeuwn ni i gyd yn awr; rhag i ni ormesu arnat ti. Ac efe a fu daer arno: ond ni fynnai efe fyned; eithr efe a'i bendithiodd ef.
26 Yna y dywedodd Absalom, Oni ddaw Amnon fy mrawd yn awr gyda ni? A'r brenin a ddywedodd wrtho ef, I ba beth yr â efe gyda thi?
27 Eto Absalom a fu daer arno, fel y gollyngodd efe Amnon gydag ef, a holl feibion y brenin.
28 Ac Absalom a orchmynnodd i'w lanciau, gan ddywedyd, Edrychwch, atolwg, pan fyddo llawen calon Amnon gan win, a phan ddywedwyf wrthych, Trewch Amnon; yna lleddwch ef, nac ofnwch: oni orchmynnais i chwi? ymwrolwch, a byddwch feibion glewion.
29 A llanciau Absalom a wnaethant i Amnon fel y gorchmynasai Absalom. A holl feibion y brenin a gyfodasant, a phob un a farchogodd ar ei ful, ac a ffoesant.
30 A thra yr oeddynt hwy ar y ffordd, y daeth y chwedl at Dafydd, gan ddywedyd, Absalom a laddodd holl feibion y brenin, ac ni adawyd un ohonynt.