2 Samuel 24 BWM

1 A thrachefn dicllonedd yr Arglwydd a enynnodd yn erbyn Israel; ac efe a anogodd Dafydd yn eu herbyn hwynt, i ddywedyd, Dos, cyfrif Israel a Jwda.

2 Canys y brenin a ddywedodd wrth Joab tywysog y llu oedd ganddo ef, Dos yn awr trwy holl lwythau Israel, o Dan hyd Beer‐seba, a chyfrif y bobl, fel y gwypwyf rifedi y bobl.

3 A Joab a ddywedodd wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a chwanego y bobl yn gan cymaint ag y maent, fel y gwelo llygaid fy arglwydd frenin: ond paham yr ewyllysia fy arglwydd frenin y peth hyn?

4 A gair y brenin fu drech na Joab, ac na thywysogion y llu. Joab am hynny a aeth allan, a thywysogion y llu, o ŵydd y brenin, i gyfrif pobl Israel.

5 A hwy a aethant dros yr Iorddonen, ac a wersyllasant yn Aroer, o'r tu deau i'r ddinas sydd yng nghanol dyffryn Gad, a thua Jaser.

6 Yna y daethant i Gilead, ac i wlad Tahtim‐hodsi; daethant hefyd i Dan-jaan, ac o amgylch i Sidon;

7 Daethant hefyd i amddiffynfa Tyrus, ac i holl ddinasoedd yr Hefiaid, a'r Canaaneaid; a hwy a aethant i du deau Jwda, i Beer‐seba.

8 Felly y cylchynasant yr holl wlad, ac a ddaethant ymhen naw mis ac ugain niwrnod i Jerwsalem.

9 A rhoddes Joab nifer cyfrif y bobl at y brenin: ac Israel ydoedd wyth gan mil o wŷr grymus yn tynnu cleddyf; a gwŷr Jwda oedd bum can mil o wŷr.

10 A chalon Dafydd a'i trawodd ef, ar ôl iddo gyfrif y bobl. A dywedodd Dafydd wrth yr Arglwydd, Pechais yn ddirfawr yn yr hyn a wneuthum: ac yn awr dilea, atolwg, O Arglwydd, anwiredd dy was; canys ynfyd iawn y gwneuthum.

11 A phan gyfododd Dafydd y bore, daeth gair yr Arglwydd at Gad y proffwyd, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd,

12 Dos a dywed wrth Dafydd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; Yr ydwyf fi yn gosod tri pheth o'th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a gwnaf hynny i ti.

13 Felly Gad a ddaeth at Dafydd, ac a fynegodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, A fynni ddyfod i ti saith mlynedd o newyn yn dy wlad? neu ffoi dri mis o flaen dy elynion, a hwy yn dy erlid? ai ynteu bod haint yn y wlad dri diwrnod? Yn awr ymgynghora, ac edrych pa beth a atebaf i'r hwn a'm hanfonodd i.

14 A dywedodd Dafydd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: bid i mi syrthio yn awr yn llaw yr Arglwydd, canys aml yw ei drugareddau ef, ac na chwympwyf yn llaw dyn.

15 Yna y rhoddes yr Arglwydd haint yn Israel, o'r bore hyd yr amser nodedig: a bu farw o'r bobl, o Dan hyd Beer‐seba, ddeng mil a thrigain o wŷr.

16 A phan estynasai yr angel ei law at Jerwsalem i'w dinistrio hi, edifarhaodd ar yr Arglwydd y drwg hwn, ac a ddywedodd wrth yr angel oedd yn dinistrio y bobl, Digon bellach: atal dy law. Ac angel yr Arglwydd oedd wrth lawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

17 A llefarodd Dafydd wrth yr Arglwydd, pan ganfu efe yr angel a drawsai y bobl, a dywedodd, Wele, myfi a bechais, ac a wneuthum yn ddrygionus: ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dŷ fy nhad.

18 A Gad a ddaeth at Dafydd y dwthwn hwnnw, ac a ddywedodd wrtho, Dos i fyny, cyfod allor i'r Arglwydd yn llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

19 A Dafydd a aeth i fyny, yn ôl gair Gad, fel y gorchmynasai yr Arglwydd.

20 Ac Arafna a edrychodd, ac a ganfu y brenin a'i weision yn dyfod tuag ato. Ac Arafna a aeth allan, ac a ostyngodd ei wyneb i lawr gerbron y brenin.

21 Ac Arafna a ddywedodd, Paham y daeth fy arglwydd frenin at ei was? A dywedodd Dafydd, I brynu gennyt ti y llawr dyrnu, i adeiladu allor i'r Arglwydd, fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl.

22 A dywedodd Arafna wrth Dafydd, Cymered, ac offrymed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg: wele yr ychen yn boethoffrwm, a'r ffustiau ac offer yr ychen yn lle cynnud.

23 Hyn oll a roddodd Arafna, megis brenin, i'r brenin. A dywedodd Arafna wrth y brenin, Yr Arglwydd dy Dduw a fyddo bodlon i ti.

24 A dywedodd y brenin wrth Arafna, Nage; eithr gan brynu y prynaf ef mewn pris gennyt: ac nid offrymaf i'r Arglwydd fy Nuw boethoffrymau rhad. Felly Dafydd a brynodd y llawr dyrnu a'r ychen, er deg a deugain o siclau arian.

25 Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i'r Arglwydd, ac a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd. A'r Arglwydd a gymododd â'r wlad, a'r pla a ataliwyd oddi wrth Israel.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24