1 Yna Joab mab Serfia a wybu fod calon y brenin tuag at Absalom.
2 A Joab a anfonodd i Tecoa, ac a gyrchodd oddi yno wraig ddoeth, ac a ddywedodd wrthi, Cymer arnat, atolwg, alaru, a gwisg yn awr alarwisg, ac nac ymira ag olew, eithr bydd fel gwraig yn galaru er ys llawer o ddyddiau am y marw:
3 A thyred at y brenin, a llefara wrtho yn ôl yr ymadrodd hyn. A Joab a osododd yr ymadroddion yn ei genau hi.
4 A'r wraig o Tecoa, pan ddywedodd wrth y brenin, a syrthiodd i lawr ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Cynorthwya, O frenin.
5 A dywedodd y brenin wrthi hi, Beth a ddarfu i ti? A hi a ddywedodd, Yn wir gwraig weddw ydwyf fi, a'm gŵr a fu farw.
6 Ac i'th lawforwyn yr oedd dau fab, a hwynt ill dau a ymrysonasant yn y maes; ond nid oedd athrywynwr rhyngddynt hwy; ond y naill a drawodd y llall, ac a'i lladdodd ef.
7 Ac wele, yr holl dylwyth a gyfododd yn erbyn dy lawforwyn, a hwy a ddywedasant, Dyro yr hwn a drawodd ei frawd, fel y lladdom ni ef, am einioes ei frawd a laddodd efe; ac y difethom hefyd yr etifedd: felly y diffoddent fy marworyn, yr hwn a adawyd, heb adael i'm gŵr nac enw nac epil ar wyneb y ddaear.