10 A'r brenin a ddywedodd, Dwg ataf fi yr hwn a yngano wrthyt, ac ni chaiff mwyach gyffwrdd â thi.
11 Yna hi a ddywedodd, Cofied, atolwg, y brenin dy Arglwydd Dduw, rhag amlhau dialwyr y gwaed i ddistrywio, a rhag difetha ohonynt hwy fy mab i. Ac efe a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni syrth un o wallt pen dy fab di i lawr.
12 Yna y dywedodd y wraig, Atolwg, gad i'th lawforwyn ddywedyd gair wrth fy arglwydd frenin. Yntau a ddywedodd, Dywed.
13 A'r wraig a ddywedodd, Paham gan hynny y meddyliaist fel hyn yn erbyn pobl Dduw? canys y mae'r brenin yn llefaru y gair hwn megis un beius, gan na ddug y brenin adref ei herwr.
14 Canys gan farw yr ydym ni yn marw, ac ydym fel dyfroedd wedi eu tywallt ar y ddaear, y rhai ni chesglir: gan na ddug Duw ei einioes, efe a feddyliodd foddion, fel na yrrer ymaith ei herwr oddi wrtho.
15 Ac yn awr mi a ddeuthum i ymddiddan â'm harglwydd frenin am y peth hyn, oblegid i'r bobl fy nychrynu i: am hynny y dywedodd dy lawforwyn, Ymddiddanaf yn awr â'r brenin; ond odid fe a wna y brenin ddymuniad ei lawforwyn.
16 Canys y brenin a wrendy, fel y gwaredo efe ei lawforwyn o law y gŵr a fynnai fy nifetha i a'm mab hefyd o etifeddiaeth Dduw.