21 A'r brenin a ddywedodd wrth Joab, Wele yn awr, gwneuthum y peth hyn: dos, a dwg y llanc Absalom yn ei ôl.
22 A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i'r brenin gyflawni dymuniad ei was.
23 A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.
24 A'r brenin a ddywedodd, Troed i'w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i'w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.
25 Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef.
26 A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a'i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin.
27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a'i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.