24 A'r brenin a ddywedodd, Troed i'w dŷ ei hun; ac nac edryched yn fy wyneb i. Felly Absalom a drodd i'w dŷ ei hun, ac ni welodd wyneb y brenin.
25 Ac nid oedd ŵr mor glodfawr am ei degwch ag Absalom o fewn holl Israel: o wadn ei droed hyd ei gorun nid oedd wrthuni ynddo ef.
26 A phan gneifiai efe ei ben, (canys un waith yn y flwyddyn y torrai efe ei wallt: oherwydd ei fod yn drwm arno, am hynny efe a'i torrai ef;) efe a bwysai wallt ei ben yn ddau can sicl, wrth bwys y brenin.
27 A thri mab a anwyd i Absalom, ac un ferch, a'i henw hi oedd Tamar: yr oedd hi yn wraig deg yr olwg.
28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin.
29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i'w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim.
30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân.