28 Felly Absalom a drigodd ddwy flynedd gyfan yn Jerwsalem, ac ni welodd wyneb y brenin.
29 Am hynny Absalom a ddanfonodd am Joab, i'w anfon ef at y brenin; ond ni ddeuai efe ato ef: ac efe a anfonodd eto yr ail waith, ond ni ddeuai efe ddim.
30 Am hynny efe a ddywedodd wrth ei weision, Gwelwch randir Joab ger fy llaw i, a haidd sydd ganddo ef yno; ewch a llosgwch hi â thân. A gweision Absalom a losgasant y rhandir â thân.
31 Yna Joab a gyfododd, ac a ddaeth at Absalom i'w dŷ, ac a ddywedodd wrtho, Paham y llosgodd dy weision di fy rhandir i â thân?
32 Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y'th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.
33 Yna Joab a ddaeth at y brenin, ac a fynegodd iddo ef. Ac efe a alwodd am Absalom. Yntau a ddaeth at y brenin, ac a ymgrymodd iddo i lawr ar ei wyneb gerbron y brenin. A'r brenin a gusanodd Absalom.