17 A mil o wŷr o Benjamin oedd gydag ef; Siba hefyd gwas tŷ Saul, a'i bymtheng mab a'i ugain gwas gydag ef: a hwy a aethant dros yr Iorddonen o flaen y brenin.
18 Ac ysgraff a aeth drosodd i ddwyn trwodd dylwyth y brenin, ac i wneuthur yr hyn fyddai da yn ei olwg ef. A Simei mab Gera a syrthiodd gerbron y brenin, pan ddaeth efe dros yr Iorddonen;
19 Ac a ddywedodd wrth y brenin, Na ddanoded fy arglwydd i mi anwiredd, ac na chofia yr hyn a wnaeth dy was yn anwir y dydd yr aeth fy arglwydd frenin o Jerwsalem, i osod o'r brenin hynny at ei galon.
20 Canys dy was sydd yn cydnabod bechu ohonof fi: ac wele, deuthum heddiw yn gyntaf o holl dŷ Joseff, i ddyfod i waered i gyfarfod â'm harglwydd frenin.
21 Ac Abisai mab Serfia a atebodd, ac a ddywedodd, Ai oherwydd hyn ni roddir Simei i farwolaeth, am iddo felltithio eneiniog yr Arglwydd?
22 A dywedodd Dafydd, Beth sydd i mi a wnelwyf â chwi, meibion Serfia, fel y byddech i mi yn wrthwynebwyr heddiw? a roddir i farwolaeth heddiw neb yn Israel? canys oni wn i, mai heddiw yr ydwyf fi yn frenin ar Israel?
23 A'r brenin a ddywedodd wrth Simei, Ni byddi di farw: a'r brenin a dyngodd wrtho ef.