36 Dy was a â ychydig tu hwnt i'r Iorddonen gyda'r brenin: a phaham y talai y brenin i mi gyfryw daledigaeth?
37 Gad, atolwg, i'th was ddychwelyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y'm cladder ym meddrod fy nhad a'm mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda'm harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg.
38 A dywedodd y brenin, Chimham a â gyda mi, a mi a wnaf iddo ef yr hyn fyddo da yn dy olwg di: a pheth bynnag a erfyniech di arnaf fi, mi a'i gwnaf erot.
39 A'r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a'r brenin a gusanodd Barsilai, ac a'i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i'w fangre ei hun.
40 Yna y brenin a aeth i Gilgal, a Chimham a aeth gydag ef. A holl bobl Jwda a hebryngasant y brenin, a hanner pobl Israel hefyd.
41 Ac wele, holl wŷr Israel a ddaethant at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Paham y lladrataodd ein brodyr ni, gwŷr Jwda, dydi, ac y dygasant y brenin a'i dylwyth dros yr Iorddonen, a holl wŷr Dafydd gydag ef?
42 Ac atebodd holl wŷr Jwda i wŷr Israel, Oblegid câr agos yw y brenin i ni: paham gan hynny y digiasoch chwi am y peth hyn? a fwytasom ni ddim ar draul y brenin? neu a anrhegodd efe ni ag anrheg?