1 Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd â'r Arglwydd, gan ddywedyd, A af fi i fyny i'r un o ddinasoedd Jwda? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.
2 A Dafydd a aeth i fyny yno, a'i ddwy wraig hefyd, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig Nabal y Carmeliad.
3 A Dafydd a ddug i fyny ei wŷr y rhai oedd gydag ef, pob un â'i deulu: a hwy a arosasant yn ninasoedd Hebron.
4 A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.