12 Ac Abner mab Ner, a gweision Isboseth mab Saul, a aethant allan o Mahanain i Gibeon.
13 Joab hefyd mab Serfia, a gweision Dafydd, a aethant allan, ac a gyfarfuant ynghyd wrth lyn Gibeon: a hwy a eisteddasant wrth y llyn, rhai o'r naill du, a'r lleill wrth y llyn o'r tu arall.
14 Ac Abner a ddywedodd wrth Joab, Cyfoded yn awr y llanciau, a chwaraeant ger ein bronnau ni. A dywedodd Joab, Cyfodant.
15 Yna y cyfodasant, ac yr aethant drosodd dan rif, deuddeg o Benjamin, sef oddi wrth Isboseth mab Saul, a deuddeg o weision Dafydd.
16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.
17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.
18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o'r iyrchod sydd yn y maes.