16 A phob un a ymaflodd ym mhen ei gilydd, ac a yrrodd ei gleddyf yn ystlys ei gyfaill; felly y cydsyrthiasant hwy. Am hynny y galwyd y lle hwnnw Helcath Hassurim, yn Gibeon.
17 A bu ryfel caled iawn y dwthwn hwnnw; a thrawyd Abner, a gwŷr Israel, o flaen gweision Dafydd.
18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o'r iyrchod sydd yn y maes.
19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.
20 Yna Abner a edrychodd o'i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.
21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o'r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.
22 Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny?