18 A thri mab Serfia oedd yno, Joab, ac Abisai, ac Asahel: ac Asahel oedd mor fuan ar ei draed ag un o'r iyrchod sydd yn y maes.
19 Ac Asahel a ddilynodd ar ôl Abner; ac wrth fyned ni throdd ar y tu deau nac ar y tu aswy, oddi ar ôl Abner.
20 Yna Abner a edrychodd o'i ôl, ac a ddywedodd, Ai tydi yw Asahel? A dywedodd yntau, Ie, myfi.
21 A dywedodd Abner wrtho ef, Tro ar dy law ddeau, neu ar dy law aswy, a dal i ti un o'r llanciau, a chymer i ti ei arfau ef. Ond ni fynnai Asahel droi oddi ar ei ôl ef.
22 Ac Abner a ddywedodd eilwaith wrth Asahel, Cilia oddi ar fy ôl i: paham y trawaf di i lawr? canys pa fodd y codwn fy ngolwg ar Joab dy frawd di wedi hynny?
23 Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a'i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a'r waywffon a aeth allan o'r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a'r oedd yn dyfod i'r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.
24 Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.