23 Ond efe a wrthododd ymado. Am hynny Abner a'i trawodd ef â bôn y waywffon dan y bumed ais, a'r waywffon a aeth allan o'r tu cefn iddo; ac efe a syrthiodd yno, ac a fu farw yn ei le: a phawb a'r oedd yn dyfod i'r lle y syrthiasai Asahel ynddo, ac y buasai farw, a safasant.
24 Joab hefyd ac Abisai a erlidiasant ar ôl Abner: pan fachludodd yr haul, yna y daethant hyd fryn Amma, yr hwn sydd gyferbyn â Gia, tuag anialwch Gibeon.
25 A meibion Benjamin a ymgasglasant ar ôl Abner, ac a aethant yn un fintai, ac a safasant ar ben bryn.
26 Yna Abner a alwodd ar Joab, ac a ddywedodd, Ai byth y difa y cleddyf? oni wyddost ti y bydd chwerwder yn y diwedd? hyd ba bryd gan hynny y byddi heb ddywedyd wrth y bobl am ddychwelyd oddi ar ôl eu brodyr?
27 A dywedodd Joab, Fel mai byw Duw, oni buasai yr hyn a ddywedaist, diau yna y bore yr aethai y bobl i fyny, bob un oddi ar ôl ei frawd.
28 Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a'r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.
29 Ac Abner a'i wŷr a aethant trwy'r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.