28 Felly Joab a utganodd mewn utgorn; a'r holl bobl a safasant, ac nid erlidiasant mwyach ar ôl Israel, ac ni chwanegasant ymladd mwyach.
29 Ac Abner a'i wŷr a aethant trwy'r gwastadedd ar hyd y nos honno, ac a aethant dros yr Iorddonen, ac a aethant trwy holl Bithron, a daethant i Mahanaim.
30 A Joab a ddychwelodd oddi ar ôl Abner: ac wedi iddo gasglu'r holl bobl ynghyd, yr oedd yn eisiau o weision Dafydd bedwar gŵr ar bymtheg, ac Asahel.
31 A gweision Dafydd a drawsent o Benjamin, ac o wŷr Abner, dri chant a thrigain gŵr, fel y buant feirw.
32 A hwy a gymerasant Asahel, ac a'i claddasant ef ym meddrod ei dad, yr hwn oedd ym Methlehem. A Joab a'i wŷr a gerddasant ar hyd y nos, ac yn Hebron y goleuodd arnynt.