11 Marchogodd efe hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a welwyd ar adenydd y gwynt.
12 Efe a osododd y tywyllwch yn bebyll o'i amgylch; sef casgliad y dyfroedd, a thew gymylau yr awyr.
13 Gan y disgleirdeb ger ei fron ef yr enynnodd y marwor tanllyd.
14 Yr Arglwydd a daranodd o'r nefoedd, a'r Goruchaf a roddes ei lef.
15 Ac efe a anfonodd ei saethau, ac a'u gwasgarodd hwynt; mellt, ac a'u drylliodd hwynt.
16 Gwaelodion y môr a ymddangosodd, a seiliau y byd a ddinoethwyd, gan gerydd yr Arglwydd, a chan chwythad anadl ei ffroenau ef.
17 Efe a anfonodd oddi uchod: cymerodd fi; tynnodd fi o ddyfroedd lawer.