2 Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd yw fy nghraig, a'm hamddiffynfa, a'm gwaredydd i;
3 Duw fy nghraig, ynddo ef yr ymddiriedaf: fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, fy uchel dŵr a'm noddfa, fy achubwr; rhag trais y'm hachubaist.
4 Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y'm cedwir rhag fy ngelynion.
5 Canys gofidion angau a'm cylchynasant; afonydd y fall a'm dychrynasant i.
6 Doluriau uffern a'm hamgylchynasant; maglau angau a'm rhagflaenasant.
7 Yn fy nghyfyngdra y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw; ac efe a glybu fy llef o'i deml, a'm gwaedd a aeth i'w glustiau ef.
8 Yna y cynhyrfodd ac y crynodd y ddaear: seiliau y nefoedd a gyffroesant ac a ymsiglasant, am iddo ef ddigio.